bcyfeiriad at Eseciel 38:2-8; 39:2

Revelation of John 20

Mil o flynyddoedd

1Yna gwelais angel yn dod i lawr o'r nefoedd, gyda'r allwedd i'r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law. 2Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛ a), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd. 3Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.

4Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd. 5(Wnaeth pawb arall oedd wedi marw ddim dod yn ôl yn fyw nes oedd y mil o flynyddoedd drosodd.) Dyma'r atgyfodiad cyntaf. 6Mae'r rhai sydd wedi eu neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi eu bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.

Dinistr Satan

7Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o'i garchar. 8Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. b Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr! 9Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw. 10A dyma'r diafol oedd wedi eu twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd.

Y meirw yn cael eu barnu

11Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth. 12A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau. 13Dyma'r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi'r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud. 14Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i'r llyn tân. Y llyn tân ydy'r ‛ail farwolaeth‛. 15Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi eu hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i'r llyn tân.

Copyright information for CYM